Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

 

Craffu Technegol: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn, gan nad yw materion ynghylch cywirdeb y rhestr eiddo ond yn debygol o godi ar ddiwedd y contract meddiannaeth, nad oes angen pennu amserlen benodol. Mae’n annhebygol hefyd na fyddai’r landlord yn ymateb, pe bai’r landlord yn anghytuno â sylwadau deiliad y contract ynghylch y rhestr eiddo, oherwydd y gallai methu ag ymateb yn y sefyllfa honno awgrymu bod y landlord yn cytuno â sylwadau deiliad y contract.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn, gan fod y gofynion a osodir gan Ran 10 o Ddeddf Tai 1985 yn rhwymedigaethau ar eu pen eu hunain, na fyddai’n gyfraith dda ailosod y gofynion hynny o fewn y Rheoliadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod cyfeirio at y cyfyngiadau yn y Nodyn Esboniadol yn ddefnyddiol i’r darllenydd i’w wneud yn ymwybodol o’i ddyletswyddau o dan Ran 10 o Ddeddf Tai 1985 mewn perthynas â gorlenwi.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y darpariaethau yn cydbwyso hawliau Confensiwn deiliaid contract, landlordiaid ac unigolion eraill y gallai argyfwng eu rhoi mewn perygl.